5 Ffordd I Helpu Busnesau Cymreig Yn Ystod Y Pla

5 Ffordd I Helpu Busnesau Cymreig Yn Ystod Y Pla

(wnaiff ddim costio dime goch!)

Mae llawer o fusnesau Cymraeg a Chymreig fach yn cael pryderon mawr yn ystod y cyfnod clo yma. Fydd colled fawr, fawr ar eu holau pan fydd bywyd yn normaleiddio eto os nad ydynt yna i ni. Mae’r rhain yn cynnwys siopau a gwasanaethau lleol rydym wedi eu gwerthfawrogi ers blynyddoedd. Dwi’n dallt bod pawb yn poeni am arian ar hyn o bryd ond dyma awgrymiadau i’w cheisio eu helpu nhw goroesi heb brynu’r un eitem na gwario’r un swllt! (Ydw dwi mor hen ffasiwn a hynny!)

  1. Hoffwch bopeth! – Rhowch “like” neu galon i bopeth sy’n cael ei bostio, mae unrhyw ymateb yn gallu helpu i’r algorithmau ffeindio a rhoi blaenoriaeth i bostion Gymraeg.
  2. Rhannwch bopeth! – Mae hyn yn well hyd yn oed na cham 1 uchod, yn enwedig ar Drydar a thebyg. Mae’r algorithm yn wir hoffi hyn, y fwy o gopïau o rywbeth y gorau mae o’n dangos i fyny yn Google!
  3. Gadewch sylw! – Mae hyn i hoffi beth yw fformiwla 1 i’r hen Morris Traveller. Os ydych chi’n ail-drydar, dywedwch pam. Does dim angen traethawd gwnaiff “Syniad Da!”, “Ydych chi wedi clywed hyn,” neu “Waw!”
  4. Gwyliwch y fideos, gwrandewch ar y sain! – Mae hyn yn bwysig! Mae’r teclynnau yma yn gallu dweud heddiw os ydy pobol yn gwylio neu wrando ar rywbeth yr holl ffordd drwodd, a sawl gwaith. Does dim rhaid i chi wylio neu wrando’n astud hyd yn oed, rhowch o ymlaen yn y cefndir ond gadewch iddo chwarae’r holl ffordd drwodd.
  5. Ysgrifennwch bost eich hun! – A rhowch linc yn eich bost i’w blog neu dudalen gwe nhw. Dwi’n dallt bod hyn yn meddwl amynedd ac ymdrech ond hon yw’r peth mwyaf pwerus fedrwch chi ei wneud i helpu. Mae hyn yn gweithio fel hudlath i’r peiriannau ymchwil fel Google, Yahoo ac Ecosia (defnyddiwch Ecosia pobl), ac yn dod a’r Mi fydd y busnesau yn ddiolchgar dros ben.

A dyna i gyd, mae’r rhain wedi eu gosod o’r lleiaf effeithiol i’r mwyaf ond mae pob un yn andros o gymorth i fusnesau Gymraeg. Ac os ydan ni gyd yn tynnu efo’n gilydd, falle bydd yna siawns fyddan nhw i gyd yno i ni eu cefnogi ar ôl yr holl helynt. Diolch.

5 Ffordd I Helpu Busnesau Cymreig Yn Ystod Y Pla

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s