Sioe unigryw sy’n dysgu cysyniadau mathemategol i CA2 drwy driciau a chonsurio!
Beth am gyfle i ddangos i’ch disgyblion cysyniadau mathemateg mewn dull hwyl a difyr? Rhowch eich ystyried mewn perfformiwr profiadol yn ysgolion ar draws Gogledd Cymru.
Roedd hyn llawer mwy na sioe hud a lledrith yn unig. – Athro Bl. 5.
Yn y sioe yma mae syniadau hwyl fel;
- Sut mae consuriwyr yn defnyddio patrymau yn gadael i wrthrychau diflannu.
- Sut mae tebygolrwydd yn effeithio ar yr allu i ddatgloi blwch.
- Esbonio sut i ddefnyddio tablau i edrych drwy wrthrychau soled.
- Pam fod darganfod cerdyn mewn dec bron a bod yn amhosib drwy rifau ffactoraidd a thebygolrwydd amodol.
- Sut i ddefnyddio chwinc sydd gan y rhif 99 i ddarllen meddwl rhywun.
- Wyrthiau gyda sgwâr hud.
Yn ogystal â hyn mae Taflen Triciau i’r plant iddynt ail-greu rhai o’r triciau mathemategol a phecyn addysg ar gael gyda chynlluniau gwers yn seiliedig ar y sioe. Mae’r rhain i’w gael yn ddigidol neu fel dogfennau caled.
Roedd yr elfen fathemategol yn glir ac yn amlwg ym mhob agwedd o’r cyflwyniad. – Cydlynydd Mathemateg, Y Fflint
Beth mae eich plant yn ei gael?
Cyfle i weld mathemateg yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd hwyl.
- Cyfle i ddysgu am gysyniadau mathemategol o fewn sioe gofiadwy.
- Cyfle i ddefnyddio mathemateg wrth ddysgu am driciau gwych.
- Cyfle i fynd a’r gwersi a’r siampl maent yn ei ddysgu adref gyda nhw ac i atgyfnerthu’r defnydd o fathemateg.
Beth sydd ei hangen gennych chi?
- Taflunydd neu sgrin fawr ar gyfer y sioe.
- Gynulleidfa awyddus o blant CA2.
- Dyna oll!
Costau
Rydym yn ymwybodol bod anawsterau yn wynebu ysgolion ar hyd ar hyn o bryd felly mae nifer o becynnau ar gael, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen yma
Disgownt arbennig ar gyfer Mabwysiadwyr Cynnar
 Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy!
Rydym yn ail fwcio Professor Llusern dro ar ôl tro. – Pennaeth, Treuddyn