Professor Llusern yn Derfynwr Gŵyl Myrddin
Caerfyrddin, Mawrth 25, 2017: Mae consuriwr Cymraeg, Professor Llusern yn falch iawn i’w gael ei ddewis fel un o bump o gonsuriwyr i gynrychioli’r ddawn yng nghystadleuaeth Hud Gŵyl Myrddin eleni. Prin iawn mae consuriwyr iaith gyntaf Gymraeg felly gredwn ei fod yn gam positif bod yr iaith yn gael ei gynrychioli yn yr ŵyl yma. Mae Professor Llusern wedi bod yn adlonni plant ac oedolion ar hyd a lled Gogledd a dros y ffin yn Lloegr gyda sioeau penblwydd, seans a Pwnsh a Siwan.
Mae Professor Llusern wedi bod yn perfformio mewn sioeau theatr ac ysgolion ers raddio o Brifysgol Aberystwyth. Mae o wedi actio ym mhob cwr o’r wlad mewn sioeau addysgol, pantomeimiau, Shakespeare a Thomas. Mae hyn hefyd yn bwydo i fewn i’w waith arall fel athro gynradd ac mae adrodd stori fywiog neu gwobrwy plant efo sioe fach hud ar diwedd y dydd yn tric bach handi i unrhyw athro!
Mae hud a lledrith wastad wedi bod yn rhan annatodol o’i yrfaoedd ar hyd y flynyddoedd ond yn ddiweddar mae’r agwedd yma wedi cymryd y rheng blaen. Mae hyn wedi dod a llwyddiant yn nghystadleuaeth Cylch Hud Gogledd Cymru llynedd ac rŵan Gŵyl Myrddin, Caerfyrddin.
“Mae hi’n fraint. Braint mawr cael eich dewis allon o holl gonsuriwyr y wlad i gynrychioli eich ardal ac eich hunain. Dwi’n nerfus, wrth gwrs, ond mae nerfau yn peth da yn yr achos hon. Mae’n rhoi mantais bach i chi.”
Penderfynwyd trefnu cystadleuaeth Hud Stryd am y tro cyntaf eleni gyd-fynd a thema Myrddin, ac mi fydd angen i’r derfynwyr perfformio pump gwaith yn ystod y dydd o gwmpas dre Gaerfyrddin. Ar ôl gwylio rhagbrofion ar fidio daeth y newyddion da drwy ebost dydd Gwener; detholwyd bump o gystadleuwyr dros Gymru gyfan yn cynnwys dau o’r Gogledd sef Professor Llusern a Jay Gatling o Landudno. Digwydd bod mae’r ddau yn ffrindiau, gan eu bod yn aelodau brwdfrydig o Gylch Hud Gogledd Cymru, lle mae Jay yn Lywydd a’r Prof. yn golygu cylchgrawn y grŵp, The Griffin. Maent yn obeithiol y bydd eu cystadlu’n codi ymwybyddiaeth o’r crefftau hudol a grŵp ieuenctid newydd Cylch Hud Gogledd Cymru â ddechreuodd mis yma.
“Felly mi fyddaf yn cynrychioli y Gogledd a’r Cymraeg ar yr un pryd. Buasai’n wych cael rhywfaint o gefnogaeth gan fy nghyd-Gymry.”
Mae’r cystadleuaeth ar y 25 o Fawrth yng Nghaerfyrddin, os ydych yn yr ardal, galwch draw, os ddim cewch dilyn y ddigwyddiad isod. Neu os ydych yn nabod rhywun iau sydd â ddiddordeb mewn ddysgu triciau, ewch at safle we Cylch Hud Gogledd Cymru.