Ble Mae Mr Pwnsh?
· Dyna sut mae gwneud hi!
· Rhy wyllt i blant?
· Beth yw eich anghenion?
Dyna sut mae gwneud hi!
Mae sioeau Pwnsh a Judy wedi bod o gwmpas am dros dair canrif erbyn hyn ac mae’r sioeau direidus ar lwyfannau bach lliwgar yn rhan annatodol o ddarlun lan y môr yn yr haf. Ac eto er bod Pwnsh ei hun yn dathlu pen-blwydd yn 352 eleni, does dim cofnod i’w chael o sioe Pwnsh a Judy yn y Gymraeg, hyd yma! Ond dyma beth yr wyf yn ceisio mynd i’r afael a hi. Am y tro cyntaf hyd y gwn i rwyf yn cynnig sioe Pwnsh a Judy yn y Gymraeg.
Rhy wyllt i blant?
Mae’r sioe wedi newid dros y blynyddoedd ac yn sicr yn oes Fictoria mi roedd hi’n gallu bod yn sioe andros o frwnt. Serch hynny roedd Pwnsh yn cael cosb haeddiannol yn y sioeau cynnar fel arfer.
Erbyn heddiw mae pethau wedi dofi ac er bod rywfaint go dda o’r slapstic dal i fodoli mae llai o’r hiwmor tywyll ynddynt. Ond mae rhai dal i ddadlau bod y sioe yn annog ymddygiad drwg mewn plant; yr un hen ddadl sydd wedi bod yn mynd o gwmpas ers cyn cof.
Mae’n rhaid bod yn ymwybodol am ddadlau fel y rhain, felly rwyf wedi sicrhau bod hi’n bosib addasu’r sioe i fod yn fwy neu’n llai dof fel bo’r galw.
“Rydw i wedi hoffi’r sioe pypedau. Es i adref i chwarae y stori gyda fy nheganau.” | – Macsen (6) |
“Sioe gwych! Dwi wedi gwirioni fel plentyn!” | – David (Athro, 60) |
Beth yw eich anghenion?
Mae’r sioe Pwnsh a Judy yn ddigon hyblyg i gael ei addasu i bron pob sefyllfa a gynulleidfa. Fedrwch cael sioe draddodiadol, neu fwy dof, ceith y gynulleidfa cwrdd a’r pypedau, gweld tu ôl i’r llên, a hefyd mae posibilrwydd ehangu y sioe gyda Llusern Hud neu Hud a Lledrith Oes Fictoria. Stondin ar maes sioe amaethyddol neu Eisteddfod? Beth am dair sioe y dydd a chrwydro gyda’r pypedau? Cysylltwch a mi a wnawn ni thrafod pethau.