Gafon ni Parti Penblwydd i’r merch 5 oed ar y sgrîn trwy zoom! Oedd o’n hollol ffantastic! 5 seren 🌟 – Rhiant
Mae’r byd ar ben i lawr ar hyn o bryd, does dim ysgol, dim chwarae allan a dim cyfle i gymdeithasu. A beth fuasai’n waeth na hyn i blentyn yw cael pen-blwydd yn ei chanol hi! Ar hyn o bryd does dim modd cael parti arferol gyda ffrindiau yn dod draw i godi gwên. Ond beth am rywbeth i leddfu’r braw?
Parti Penblwydd Pell
Am gyfnod y pellter cymdeithasol rydym yn cynnig Parti Penblwydd Pell gyda chonsuriwr plant Cymru Professor Llusern! Mae hyn yn fersiwn arbennig o sioe hud a lledrith pen-blwydd wedi ei addasu ar gyfer y we. Byddwch yn cael;
- Sioe ryngweithiol byw dros y rhyngrwyd!
Cyfle i wahodd ffrindiau a chael siarad â nhw!
- Sioe hud a lledrith!
- Chwerthin a chanu!
- Cyfle i’r plant cymryd rhan dros y we!
- Pypedau a chymeriadau gwirion!
- Profiad fyth gofiadwy!
- “Pum munud” a phaned i’r rhieni!
- Yn y Gymraeg neu Dwyieithog!
- Y plentyn pen-blwydd yn un o sêr y sioe!
Ac yn opsiynol,
- Gwers fer ar hud a lledrith i’r plentyn pen-blwydd.
- Fidio o’r sioe i’w gadw.
Gwelwch beth mae pawb yn dweud am ein sioeau! Cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y botwm yma!