Cynllun llawr eich parti
- Ar ôl cannoedd o bartïon mae gennym syniad da o beth sy’n gweithio’n orau ar gyfer cynllun llawr ystafell parti.
- Dyma rhai awgrymiadau defnyddiol;
- Does dim angen cymaint o le ag ydych chi’n ei ddisgwyl. Mae gofod llai yn well nag un fawr agored. Mewn ymarfer rhannwn y neuadd yn ddau. Gweler y diagram isod.
- Gosodwch res o gadeiriau hanner ffordd i lawr canol y neuadd a ddwy res ar hyd yr ochr (mewn dull theatr) i rieni cael eistedd a mwynhau’r sioe gyda’r plant. Gweler y diagram isod.
- Peidiwch â rhoi seddi i rieni mewn mannau eraill i’r rhai yn y diagram os gwelwch yn dda gan fydd hyn yn arwain i siarad ac yn gwneud hi’n anodd i’r plant clywed y sioe.
- “Y Parth Parti” yw lle mae’r plant i eistedd i weld y sioe hud a/neu chwarae’r gemau ac yn y blaen. Nid oes angen cadeiriau, blancedi, clustogau na matiau eistedd. Maent yn achosi perygl baglu.
- Fydd Professor Llusern yn gosod i fyny a’i gefn at y wal.
- Gosodwch eich byrddau bwyta yn agos at y fynedfa a’r gegin er mwyn hwyluso gweini amser bwyd.
- Mae siâp “U” yn gweithio’n dda ar gyfer y byrddau ac yn eistedd 30 – 35 o blant yn hawdd. (Gweler y llun isod)
- Rhowch fwrdd yn agos i’r fynedfa i’r plant cael gosod yr anrhegion.
- Byddwch yn ofalus i gadw’r diangfeydd dân yn glir.
Byrddau mewn siâp “U”
Cadeiriau i lawr canol y neuadd i’r rhieni
Cewch lwytho i lawr copi o’r Cynllun llawr ar PDF yn rhad ac am ddim ar y botwm isod