Dyma eich Bywyd
Cael ddathliad yn ystod y cyfnod clo? Gadewch i ni helpu.
Mae Professor Llusern wedi trefnu sioeau pell dros Zoom a teams i ysgolion a chyfundrefnau yn ystod y cyfnod anodd yma. Rŵan rydym yn dod a’r arbennigedd newydd yma i chi i helpu dod â theulu a chyfeillion at eu gilydd i ddathlu mewn ffyrdd unigryw wedi eu teilwra i chi!
Dyma parïon pell Professor Llusern i’r pobl mawr!
Roedd meddwl am sut i ddathlu 2 benblwydd arbennig yn ystod y cyfnod clo ac wythnos cyn y Nadolig yn peri gofid! Ar ol cael y syniad o drefnu parti “This is your Life” cyfrinachol a gofyn os byddai Professor Llusern yn gallu helpu cefais fy synnu ar ba mor rhwydd a naturuiol roedd y trefniadau wedi syrthio i’w lle. Roedd <Professor Llusern> mewn cyswllt cyson i rannu gwybodaeth am y gwesteion cudd oedd am gymryd rhan a doedd dim angen i mi boeni. Cafwyd noson unigryw i’w gofio – roedd sgiliau cyflwyno a chyfathrebu <Professor Llusern> yn golygu bod pawb oedd wedi ymuno yn y dathlu wedi cael amser penigamp. Mae gwybodaeth a sgiliau rheoli <Professor Llusern> o Zoom yn drawiadol. Dan ni mor ddiolchgar i <Professor Llusern> am drefnu parti mor gofiadwy i ni!
Bethan

Dyma eich Bywyd (This is Your Life)
Eisiau syrpreis gyda gwesteion arbennig o fywyd yr un sy’n dathlu? Gadewch i ni ailadrodd hanes eu bywyd o’r llyfr mawr coch!
Mae hon yn becyn premiwm ble rydym yn ymchwilio bywyd y rhai sy’n dathlu. Siarad gyda ffrindiau a theulu i ddarganfod y straeon gorau ac yn cydweithio i wneud hon yn ddigwyddiad di-boen i chi’r huriwr.
Cliciwch yma i weld y fideo yma i weld ymateb y teuluoedd o ddagrau i wenu o glust i glust.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth!

Llwybr y Llofrydd (Murder Mystery)
Eisiau bod yn dditectif? Neu yn well fyth, un o’r suspects!
Parti unigryw i chi a’ch teulu oll, cewch gymryd rhan fel y mynnoch, gwisgwch mewn gwisg ffansi, byddwch yn barod i chwarae rhan Columbo, Miss Marple neu’r Heliwr! Amryfal senario ar gael fel ffilm noir a oes aur rygbi’r 70au.
Fedrwn ni cyflwyno’r rhai a ddrwgdybir i chi ar ffurf fideo a’ch tywys trwy’r digwyddiad neu… ydy’ch brawd yng nghyfraith yn dda am fod yn shifty? Neu, yw’ch cyfnither eisiau chwarae femme fatale? Fedrwn ni ddarparu’r sgript a’r cyfarwyddo, mae’r gweddill i fyny i chi!
Mae tlws i’r rhai sy’n datrys y pos gyda’r ateb go iawn. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Cwis Eich Bywyd! (Quiz of Your Life!)
Y dych chi’n cwiswyr? Wrth eich bodd gyda The Chase a Who Wants to be a Millionaire? Eisiau cael dathliad lle rydych chi yn erbyn y byd mewn Sioe Cwis unigryw, wedi ei deilwra i chi a’ch dathliad!
Fedrwn gynnwys ddigon o gwestiynau wedi eu personoli i wneud i hon deimlo’n cwis unigryw i chi a’ch dathliad!
- Beth oedd cynnwys Cadbury’s Aztec, y bar siocled gorau erioed yn ôl taid?
- Pwy oedd eich hoff angel Dai allan o Charlie’s Angels?
- Pwy oedd yn y gôl pan sgoriodd Maradona drwy’r “Hand of God”?
Ac wrth gwrs digon o gwestiynau cyffredinol i roi siawns i bawb arall!
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth!